YMGYSYLLTU RHYNGWLADOL GWEINIDOGOL

 

MEDI 2024

 

 

YMWELIADAU MEWNOL

 

25 Medi

 

 

 

 

 

 

 

 

 

25 Medi

 

 

 

 

 

 

 

 

30 Medi

 

 

Ymweliad â Chymru gan Lysgennad yr Almaen i'r DU

Ymwelodd Llysgennad yr Almaen â Chymru i ddathlu Diwrnod Undod yr Almaen. Tra'r oedd yng Nghymru, cyfarfu'r Llysgennad â'r Prif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi. Yn ystod eu cyfarfodydd, buont yn trafod materion hinsawdd, ynni carbon isel ac ynni adnewyddadwy morol, arbenigedd yng Nghymru ar draws y sector gwyddorau bywyd, y diwydiannau creadigol a seiber, y nifer sy'n astudio Almaeneg ar lefel TGAU a Safon Uwch yng Nghymru, y berthynas economaidd a chynyddu nifer y twristiaid o'r Almaen sy'n ymweld â Chymru.

 

Ymweliad â Chymru gan Gynrychiolwyr o Birmingham, Alabama (Sister Cities)

Fel rhan o'r Cytundeb Cyfeillgarwch a'r Rhaglen Birmingham Sister Cities, croesawodd Cymru gynrychiolwyr o Birmingham, Alabama rhwng 25 a 28 Medi. Roedd y rhaglen o ymweliadau yn cynnwys derbyniad croeso gyda'r Prif Weinidog, digwyddiad cysylltiadau 'Wales Window', presenoldeb yn narlith Monumental Welsh Women ar Betty Campbell ac elfennau economaidd a diwylliannol ar wahân.

 

Ymweliad â Chymru gan Brif Weinidog Nagaland

Ymwelodd Prif Weinidog Nagaland, a'i ddirprwyaeth, â Chymru i gwrdd â'r Dirprwy Brif Weinidog a chyrff diwylliannol yng Nghymru i drafod cysylltiadau agosach a chyfranogiad Cymru fel gwlad bartner ar gyfer Gŵyl Hornbill eleni yn Nagaland. Bydd Hornbill yn nodi diwedd blwyddyn Cymru yn India 2024.

 

YMWELIADAU ALLANOL

 

22 Medi

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

22 Medi

 

 

 

Y Dirprwy Brif Weinidog yn ymuno ag Wythnos Hinsawdd Efrog Newydd

Ymunodd y Dirprwy Brif Weinidog ag Wythnos Hinsawdd Efrog Newydd ar gyfer ystod o gyfarfodydd, gan gynnwys cyfarfod teirochrog gyda Gillian Martin, Ysgrifennydd Cabinet yr Alban dros Sero Net ac Ynni ac Andrew Muir, Gweinidog Amaethyddiaeth, yr Amgylchedd a Materion Gwledig Gogledd Iwerddon. Cynhaliwyd cyfarfodydd hefyd gyda Chomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol a Phrif Swyddog Gweithredol Earthshot. Siaradodd y Dirprwy Brif Weinidog mewn nifer o ddigwyddiadau, gan sôn am lwyddiannau Cymru wrth fynd i'r afael â newid hinsawdd, ac mewn nifer o dderbyniadau, gan gynnwys un a drefnwyd gan Lywodraeth Cymru. Ar ei fore olaf yno, ymunodd Ysgrifennydd y Cabinet â thrafodaeth ford gron ar y thema 'Mobilizing Funding for Waste Methane Reduction at Scale'.

 

Cyfarfod â Llysgennad yr UE yn Lerpwl

Cyfarfu'r Prif Weinidog â Llysgennad yr UE yng Nghynhadledd y Blaid Lafur. Yn ystod eu cyfarfod, buont yn trafod Taith/Rhyddid i Symud, Erasmus a'r cyfle i'r Prif Weinidog annerch Penaethiaid Cenadaethau’r UE yn Llundain. Croesawodd y Prif Weinidog y cyfle hwn, gan wahodd y Llysgennad i ymweld â Chymru gyda Phenaethiaid Cenadaethau eraill o Aelod-wladwriaethau’r UE yn ystod gwanwyn 2025.